Mae arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi beirniadu record Ms Morgan yn ystod ei chyfnod fel Ysgrifennydd Iechyd.
“Ddydd Iau diwethaf, welon ni ffigyrau sy’n dangos mai Cymru sydd â’r amseroedd aros gwaethaf o holl wledydd y DU,” meddai.
“Os mai dyma yw’r gorau sydd gan Lafur i’w gynnig, yna mae 18 mis ansefydlog o’n blaenau cyn etholiadau’r Senedd yn 2026.”
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol fod ffocws Llafur “yn gyfan gwbl ar reolaeth eu plaid yn hytrach nag ar newid cyfeiriad i Gymru” wedi wythnosau o “ffraeo mewnol”.
“Gall absenoldeb platfform polisi olygu un peth yn unig – mwy o’r un syniadau blinedig a meddylfryd hen ffasiwn sydd wedi arwain at Gymru ar waelod tablau cynghrair economaidd, iechyd ac addysgol ar ôl 25 mlynedd o Lafur mewn grym.”