Mae streicio yn gam allweddol a difrifol yn yr anghydfod rhwng undeb Unite a Tata Steel.
Tra bo’r ddau undeb arall – Community a’r GMB – yn dal i drafod dyfodol a diswyddiadau gweithwyr dur yn ne Cymru, mae Unite yn gamblo bod streicio yn gallu gwella’r hyn sy’n wynebu’r 2,800 fydd yn colli eu swyddi.
Eisoes mae Tata Steel wedi dweud y bydd pecyn ariannol fwyaf ffafriol y cwmni yn cael ei dynnu oddi ar y ford, a hynny oherwydd penderfyniad Unite i gynnal gweithred ddiwydiannol yn barod.
Ac fe all y cwmni fynd i’r llys er mwyn ceisio atal y streic. Mae Tata Steel yn dweud bod gweithrediadau diwydiannol yn “anghyfreithlon” oherwydd “anghysondebau” ym mhleidlais Unite.
Dyw’r cwmni ddim wedi gofyn i farnwr benderfynu ar y mater hyd yn hyn.
Mae Unite hefyd yn gamblo’n wleidyddol.
O fewn diwrnodau o’r etholiad cyffredinol fe fydd yn rhaid i’r llywodraeth newydd ddelio â’r streiciau cyntaf yn y diwydiant dur ers 40 mlynedd.