Er i Jonathan Reynolds ddweud fore Sul bod “cytundeb gwell ar gael” ar gyfer gweithwyr ym Mhort Talbot, mae’r ysgrifennydd busnes newydd yn gwybod bod Tata Steel yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda’u cynlluniadu ad-drefnu.
Mae’r cwmni eisiau cau ail ffwrnais chwyth ym mis Medi ac yn bwriadu diswyddo 2,800 o weithwyr ar draws y DU.
Roedd Llafur wedi gofyn i cwmni ymatal rhag gwneud unrhyw benderfyniadau “di-droi’n-ôl” cyn yr etholiad cyffredinol, ond maer trafodaethau rhwng Tata a’r undebau bron ar ben.
Mae’r posibilrwydd o fuddsoddiadau’n llygedyn obaith i’r rhai sydd eisiau lliniaru effeithiau cynlluniau Tata – fe allai’r lywodraeth Lafur gynnig help i ariannu seilwaith newydd fel safle DRI (direct reduced iron) neu felin plât i helpu codi tyrbinau gwynt arnofiol.
Roedd Llafur wedi trafod cefnogi buddsoddi ym Mhort Talbont yn ystod ymgyrch yr etholiad, ac mae rheolwyr Tata Steel wedi bod yn agored i’r syniad.
Ni fyddai hynny’n achub swyddi yn y tymor byr, ac fe fydd y cynllun presennol i godi ffwrnais arc drydan y flwyddyn nesaf, gyda £500m gan yr hen lywodraeth Geidwadol, angen nifer sylweddol yn llai o weithwyr na’r hyn sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd.
Mae’r amserlen yn eithriadol o dynn.
Mae gweithwyr yn awchu am atebion. Mae rhai yn barod i gael eu diswyddo’n wirfoddol ac mae Tata Steel eisoes yn y broses o ddod â dulliau cynhyrchu traddodiadol i ben ym Mhort Talbot erbyn yr hydref.