Fe wnaeth y Gweilch sicrhau eu lle yng ngemau ailgyfle’r Bencampwriaeth Unedig gyda buddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn Caerdydd brynhawn Sadwrn.
Roedd tîm Toby Booth yn yr unfed safle ar ddeg ar ddechrau’r penwythnos, ond mae canlyniadau Connacht, Caeredin a’r Lions yn golygu eu bod wedi codi i’r wythfed safle.
Fe sgoriodd y ddau dîm bedwar cais mewn gem hynod gyffrous.
Nicky Smith (x2), Justin Tipuric a Luke Morgan wnaeth groesi i’r Gweilch, tra bod Theo Cabango, Mason Grady (x2) a Gabriel Hamer-Webb wedi sgorio i Gaerdydd.
Cic gosb hwyr gan faswr y Gweilch, Dan Edwards oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn y pendraw.
Mae’r golled yn golygu bod Caerdydd yn gorffen y tymor yn y deuddegfed safle.