Dywedodd Rhun ap Iorwerth mewn datganiad: “Ers dod yn arweinydd, rydw i wedi bod yn benderfynol o ddwyn Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif yn gadarn.
“Rwy’n parhau i fod yn bryderus iawn bod y Prif Weinidog wedi methu ag ad-dalu’r rhodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, a chredaf ei fod yn dangos methiant sylweddol o farn.
“Mae’r arian dros ben bellach wedi ei drosglwyddo i Blaid Lafur Keir Starmer.
“Mae’r amgylchiadau sy’n ymwneud â’r penderfyniad i ddiswyddo aelod o’r llywodraeth yr wythnos hon – ynglŷn â materion a ddylai fod yn gyhoeddus eisoes – yn peri cryn ofid i mi.
“Rwyf hefyd yn bryderus ynghylch am y ffordd mae’r llywodraeth yn ymagweddu mewn perthynas â rhai elfennau o’r Cytundeb Cydweithio, gan gynnwys y penderfyniad i ohirio gweithredu i gefnogi’r teuluoedd tlotaf yn ein cymunedau, fel y dangoswyd yn fwyaf diweddar yn y penderfyniad i ohirio diwygio’r dreth cyngor.
“Bydd Plaid Cymru yn symud ymlaen gydag ymrwymiad clir a pharhaus i graffu ar record Llafur, gyda phenderfynoldeb o’r newydd i gyflwyno syniadau beiddgar sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau pobl Cymru ar gyfer ein gwlad.”