Fe wnaeth y cwmni tacsi Premier Group o Fangor, sy’n berchen ar y car, gadarnhau fod yr Hyundai wedi’i ddwyn ganddyn nhw, ond nad oedd yr un o yrwyr y cwmni’n rhan o’r digwyddiad.
Dywedodd Gordon Saynor, ymchwilydd fforensig gwrthdrawiadau gyda Heddlu Gogledd Cymru, fod camera traffig wedi ffilmio’r car yn mynd i gyfeiriad Conwy ar hyd yr A55 tua’r dwyrain yn Nwygyfylchi pan ddiflannodd o’r golwg y tu ôl i fryn bychan.
Clywodd y cwest yn llys crwner Rhuthun nad oedd unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad.
Dywedodd Mr Saynor: “Ar ôl i’r olwyn flaen daro ymyl y palmant, fe aeth y car ar draws y ffordd cyn taro rheiliau metel a wal gerrig.”