Wedi i’r negeseuon ddod i’r amlwg yn 2022, roedd yna gyfarfod rhwng y cyngor a’r heddlu i drafod lles y ddynes.
Dywedodd yr heddlu nad oedd y negeseuon wedi croesi’r trothwy o ran erlyniad, ac aeth Ms M ati i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyda chymorth prif swyddog monitro’r cyngor, Gareth Owens.
Pan ddaeth Mr Attridge i wybod am hynny, fe gyhuddodd Mr Owens o fod eisiau difetha ei yrfa, ond fe dynnodd y cyhuddiad yn ôl pan ofynnodd y prif weithredwr am dystiolaeth.
Roedd y sylwadau hynny, medd y panel, yn “amharchus” ac yn torri’r cod ymddygiad.