Yn ôl Delyth Jones, sy’n byw yn Harlech ond yn wreiddiol o Lanbedr, mae’r sefyllfa yn heriol tu hwnt.
“Dwi di bod yn styc mewn traffic o blaen am awr a dwi eisiau bypass… mae’n anodd rŵan gyda babi”, meddai.
“Dydi o ddim yn saff rili cerdded yn y pentref efo’r babi… mae’n beryg, dydi palmant y bont ddim yn ddigon wide i gerdded efo bygi so dwi gorfod mynd ar y ffordd”.
Un o’r rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu ydi Goronwy Davies ac mae’n dweud bod “gymaint o addewidion wedi bod ond dim yn digwydd”.
“Mae’n drychinebus, dwi ddim yn gwybod lle mae’r arian yn mynd… rhyw bwyllgorau mashwr.”
Ychwanegodd bod yn rhaid i’r pleidiau gwleidyddol gydweithio er mwyn gwireddu’r cynllun.